Bruce Willis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bruce Willis
BruceWillisLFDHpremiere07.jpg
Bruce Willis
Ganwyd (1955-03-19) Mawrth 19, 1955 (59 oed)
Idar-Oberstein, Gorllewin yr Almaen
Enwau eraill Walter Bruce Willis
Yn enwog am Die Hard, Pulp Fiction, The Sixth Sense
Galwedigaeth Actor, cynhyrchydd ffilm

Actor a chynhyrchydd ffilm Americanaidd yw Walter Bruce Willis (ganed 19 Mawrth 1955). Dechreuodd ei yrfa ar y teledu yn ystod y 1980au ac ers hynny mae ef wedi parhau i weithio ar y teledu ac mewn ffilmiau. Un o'i rôlau mwyaf poblogaidd oedd fel John McClane yn y gyfres ffilmiau Die Hard, a fu'n llwyddiant masnachol a beirniadol. Mae Willis wedi rhyddhau sawl albwm ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu. Ymddangosodd hefyd mewn dros trigain o ffilmiau, gan gynnwys Pulp Fiction, Sin City, 12 Monkeys, Armageddon, a The Sixth Sense.

Bu'n briod â'r actores Demi Moore o 1987 tan 2000 ac mae bellach yn briod â'r actores a'r model Seisnig, Emma Heming.

Dolenni allanol[golygu]

Us-actor.svg Eginyn erthygl sydd uchod am actor Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.