Bronwen y Dŵr
Oddi ar Wicipedia
| Bronwen y Dŵr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Cinclidae |
| Genws: | Cinclus |
| Rhywogaeth: | C. cinclus |
| Enw deuenwol | |
| Cinclus cinclus (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Cinclidae yw Bronwen y Dŵr (Cinclus cinclus). Mae'n aderyn gweddol gyffredin trwy Ewrop a'r Dwyrain Canol.
Ceir nifer o is-rywogaethau:
- C. c. cinclus : Gogledd Ewrop
- C. c. gularis : Prydain ac Iwerddon
- C. c. aquaticus : Canolbarth Ewrop
Nid yw Bronwen y Dŵr yn aderyn mudol fel rheol, ond mae C. c. cinclus yn symud tua'r de yn y gaeaf. Fe'i ceir ar afonydd a nentydd, ac weithiau ar lynnoedd, ond fel rheol ar afonydd lle mae'r dŵr yn llifo'n gyflym. Ei brif fwyd yw pryfed ac anifeiliaid bychan o wahanol fathau, ac mae'n medru trochi dan y dŵr i'w dal.
Mae Bronwen y Dŵr yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, er fod y niferoedd wedi lleihau mewn rhai ardaloedd.