Brodordy Dinbych

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brodordy Dinbych: adfeilion yr eglwys.

Sefydlwyd Brodordy Dinbych yn nhref Dinbych ar ddiwedd y 13eg ganrif gan Urdd y Carmeliaid, a adnabyddir hefyd fel 'Y Brodyr Gwynion'.

Codwyd y brodordy i'r dwyrain o Gastell Dinbych. Cafodd nawdd gan Esgobaeth Llanelwy a noddwyr llÿyg. Erbyn dechrau'r 16eg ganrif cofnodir dau o frodyr-esgobion Llanelwy yn byw yno. Erbyn 1537, pan ddiddymwyd y brodordy gan Harri VIII o Loegr, dim ond pedwar brawd oedd yn byw yno.

Roedd eglwys y brodordy yn cael ei rhannu'n ddau gan lobi gyda'r brodyr yn eistedd mewn côr i'r dwyrain gyda'u hallor eu hunain a'r bobl llÿyg i'r gorllewin, hwythau gyda'u hallor eu hunain.

Ar wahân i ddarn bychan o'r abaty, dim ond eglwys adfeiliedig y brodordy sy'n sefyll heddiw. Llosgwyd yr adeiladau eraill i'r llawr yn 1899; roeddent yn cael eu defnyddio fel ystordy gwlân ar y pryd. Lleolir yr eglwys ar Stryd y Wyddgrug.

Mae'r adfeilion yng ngofal Cadw.

Ffynhonnell[golygu]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Prehistoric Wales. (HMSO, 1995), tud. 131.