Broch Clickimin
Oddi ar Wicipedia
Broch (amddiffynfa) mawr mewn cyflwr arbennig o dda ger Lerwick yn Shetland, yr Alban, yw broch Clickimin.
Fe'i lleolir ar arfordir Mainland o fewn amddiffynfa allanol o gerrig ac mae'n cynnwys, yn anghyffredin am broch, fath o borth mawr ("blockhouse") rhwng y fynedfa i'r amddiffynfa allanol a drws y broch ei hun. Ceir llechfaen ac arno olion traed cerfiedig ar y sarn sy'n arwain i'r safle.
Mae cloddio gan archaeolegwyr yn awgrymu fod pobl yn defnyddio'r broch o'r seithfed ganrif CC hyd tua'r 6ed neu efallai'r 7fed ganrif.
Mae Historic Scotland yn gofalu am y safle.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Broch Clickimin ar wefan shetland-museum