Brith golau

Oddi ar Wicipedia
Brith golau
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonAbraxas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brith golau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Abraxas
Rhywogaeth: A. pantaria
Enw deuenwol
Abraxas pantaria
(Linnaeus, 1767)[1]
Cyfystyron
  • Phalaena pantaria Linnaeus, 1767

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw brith golau, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy brithion golau; yr enw Saesneg yw Light Magpie, a'r enw gwyddonol yw Abraxas pantaria.[2][3] Mae i'w weld gan amlaf yn ngwledydd Môr Canoldir yn enwedig Portiwgal a Sbaen ac yn achlysurol yng ngwledydd Prydain, Iwerddon, Croasia, Armenia, Rwsia, Twrci a Georgia.

Fe'i disgrifiwyd yn wreiddiol gan Linnaeus yn 1767.[4]

Hyd adenydd yr oedolyn ydy 38–42 mm (y fenyw) a 35–40 mm (y gwryw). Lliw hufenog golau neu wyn sydd iddynt ac mae gan y pen, y thoracs a'r abdomen flew brown golau. Ceir sbotiau brown tywyll ar y thoracs a phob cylchran (segment) o'r abdomen. Gyn, lliw asgwrn, ydy'r adenydd ac mae bôn yr adain ychydig yn dywyllach. Ceir smotiau hefyd ar y blaen-adain - tua'r canol, a smotiau llai ar yr ôl-adain.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r lindysyn yn bwyta llawer o ddail Fraxinus excelsior ac maent yn bla. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Fauna Europaea". Faunaeur.org. 2011-01-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-29. Cyrchwyd 2011-12-16.
  2.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. "Abraxas at funet.fi". Nic.funet.fi. Cyrchwyd 2011-12-16.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyfyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.