Britannia Superior

Oddi ar Wicipedia
Britannia Superior
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasLondinium Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBritannia Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata

Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Superior. Roedd yn un o'r ddwy dalaith a grewyd tua 197 OC, pan rannodd yr ymerawdwr Septimius Severus dalaith Britannia yn ddwy; y dalaith arall oedd Britannia Inferior.

Roedd prifddinas Britannia Superior yn Londinium (Llundain), ac roedd yn cynnwys rhan ddeheuol Lloegr a'r cyfan o Gymru. Yn Efrog yr oedd prifddinas Britannia Inferior, oedd yn cynnwys rhan ogleddol Lloegr, ond nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y ffîn rhwng y ddwy dalaith.

Tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian, rhannwyd talaith Britannia Superior yn ddwy: Britannia Prima a Maxima Caesariensis. Roedd Britannia Prima yn cynnwys Cymru a gorllewin Lloegr, gyda phrifddinas yn Cirencester, tra'r oedd Maxima Caesariensis yn cynnwys de-ddwyrain Lloegr, gyda'r brifddinas yn Londinium.

Llywodraethwyr[golygu | golygu cod]

  1. Tiberius Julius Pollienus Auspex, 223-226
  2. Caius Junius Faustinus Postumianus, tua 227-235
  3. Rufinus, dim manylion pellach
  4. Marcus Martiannius Pulcher
  5. Titus Desticius Juba, 250au

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]