Britannia Prima
Oddi ar Wicipedia
Amffitheatr Corinium
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Prima. Roedd yn un o'r pedair talaith a grewyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Secunda, Maxima Caesariensis a Flavia Caesariensis.
Roedd Britannia Prima yn cynnwys Cymru a gorllewin Lloegr. Credir bod ei phrifddinas yn Corinium neu Corinium Dobunnorum (Cirencester, yn Swydd Gaerloyw heddiw).
Llyfryddiaeth [golygu]
- Roger White Britannia Prima: the Romans in the west of Britain (The History Press, 2007) ISBN 978-0752419671
Cysylltiad allanol [golygu]
- http://www.vanderbilt.edu/AnS/Classics/roman_provinces/britain/image21.htm Map o'r taleithiau Rhufeinig ar Ynys Prydain