Briog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sant Cymreig o'r 6ed ganrif sy'n bennaf gysylltiedig a Llydaw oedd Briog, Llydaweg: Brieg, Lladin:Briomaglus.

Bywgraffiad[golygu]

Yn ôl ei fuchedd, a ysgrifennwyd yn yr 11eg ganrif, ganwyd Briog yng Ngheredigion, Cafodd ei dad, Cerp, a'i fam, Eldruda, weledigaeth cyn iddo gael ei eni, a daethant yn Gristionogion. Dywedir iddo gael ei yrru i ddinas Paris lle cafodd addysg gan sant Garmon a'i ordeinio yn offeiriad.

Dychwelodd i Geredigion am gyfnod cyn symud i Lydaw, lle sefydlodd fynachlog yn Tréguier, yna fynachlog arall yn Sant-Brieg (Ffrangeg:St. Brieuc) a dyfodd yn esgobaeth. Mae Briog yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. Yng Nghymru, mae eglwys Llandyfriog yng Ngheredigion wedi ei chysegru iddo. Ceir lleoedd yn dwyn ei enw mewn rhannau eraill o Lydaw, ac yng Nghernyw, ac mae tref o'r enw Saint Brieux yn Saskatchewan, Canada.

Ei wylmabsant yw 1 Mai.

Gweler hefyd[golygu]