Brieg (Finisterre)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned yn département Penn-ar-Bed (Finisterré), Llydaw yw Brieg (Ffrangeg: Briec). Mae wedi'i lleoli rhyw 15 cilometr o’r brif ddinas rhanbarthol Kemper (Quimper). Mae yno nifer o ddiwydiannau traddodiadol – yn arbennig cynhyrchu ‘Galettes’, y bisgedi enwog. Daw gwaith trin gwastraff sy’n gwasanaethu ardal fawr ag incwm i’r dref hefyd. Gefeilldref Brieg ydyw Rhuthun, Sir Ddinbych, ac fel Rhuthun, mae'n ganolfan amaethyddol.

Mae Brieg yn adnabyddus am y ‘Bagad’, band traddodiadol a ystyrir ymhlith y goreuon yn Llydaw. Yn ddiweddar agorodd y Bagad bencadlys ymarfer newydd yn Plasenn Rhuthun (Place de Ruthin). Mae dawnswyr traddodiadol Gwen ha Du o Landrevarzec hefyd yn perfformio ar y lefel uchaf.

Gweler hefyd [golygu]

Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato