Brian Thomas
Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig oedd Brian Thomas (18 Mai 1940 – 9 Gorffennaf 2012).[1] Bu'n chwaraewr a hyfforddwr i dîm rygbi Castell-nedd. Cafodd 21 gap dros Gymru rhwng 1964 a 1969, a bu'n aelod o dîm buddugol y Pum Gwlad.[2]
Bywgraffiad [golygu]
Ganwyd Thomas ym Mhont-walby, dros yr afon o Lyn-nedd, a chwaraeodd rygbi fel plentyn. Dewiswyd i gynyrchioli ei wlad ar dîm Ysgolion Uwchradd Cymru. Wedi gadael yr ysgol, aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n chwarae dros dîm y brifysgol. Enillodd tri 'Blues' yn chwarae yn y Varsity Match ym 1960, 1961 a 1962. Y tu allan i'r brifysgol, chwaraeodd dros ei dîm lleol, Castell-nedd, yn ogystal, gan wynebu tîm De Affrica a oedd ar daith ym 1961, fel rhan o dîm Aberavon a Chastell-nedd ar y cyd. Wedi gadael Caergrawnt, dychwelodd i Gastell-nedd. Cafodd ei ddewis i gynyrchioli Cymru am y tro cyntaf pan oedd yn 22 oed, fel rhan o dîm Pencampwriaethau'r Pwm Gwlad 1963.
Cynyrchiolodd Gymru 21 gwaith rhwng 1963 a 1969. Aeth ar daith gyda thîm Cymru ddwywaith, ym 1964 i Dde Affrica, gan chwarae pob un o'r pedwar gêm, ac ym 1969 i Awstralasia a Fiji. Bu'n gapten dros Gastell-nedd rhwng 1966 a 1968.
Ym 1981, daeth Thomas yn reolwr dros Gastell-nedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw odan ei lyw, enillont bump teitl Pencampwyr Clybiau Cymru ym 1986/87, 1988/89 a 1989/90, yn ogystal a Cyngrhair Gyntaf Cymru ym 1990/91 a 1995/96.
Roedd hefyd yn dad yng nghyfraith i'r chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, Rowland Phillips.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Brian Thomas player profile. Scrum.com. Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2012.
- ↑ Brian Thomas, Neath and Wales rugby player and coach, dies. BBC (9 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2012.