Brian Epstein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brian Epstein

Roedd Brian Samuel Epstein (19 Medi 1934 – 27 Awst 1967) yn entrepreneur cerddorol o Loegr a oedd hefyd yn reolwr ar y grŵp pop Y Beatles. Roedd yn reolwr ar nifer o fandiau eraill hefyd gan gynnwys Gerry & The Pacemakers, Billy J. Kramer and the Dakotas, Cilla Black a The Remo Four.

Recordiodd Y Beatles demo yn stiwdios Decca a Epstein dalodd am hyn. Yn ddiweddarach, perswadiodd George Martin i wrando ar y demo, am nad oedd gan Decca ddiddordeb mewn cynnig cytundeb i'r Beatles. Cynigiodd Martin gytundeb recordio i Epstein ar label fechan EMI, Parlophone er eu bod wedi cael eu gwrthod gan bron pob cwmni recordiau arall ym Mhrydain.

Bu farw Epstein o or-ddôs damweiniol o gyffuriau yn ei gartref yn Llundain ym mis Awst 1967. Priodolir llwyddiant cynnar Y Beatles i reolaeth Epstein a'i synnwyr o steil. Pan yn sôn am Epstein, dywedodd Paul McCartney: "If anyone was the Fifth Beatle, it was Brian."

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill