Briançon
Oddi ar Wicipedia
Dinas a chymuned yw Briançon (Lladin: Brigantium), yn département Hautes-Alpes yn rhanbarth Provence-Alpes-Côte d'Azur yn ne-ddwyrain Ffrainc. Mae'n sous-préfecture Hautes-Alpes. Mae'n ddinas hynafol a sefydlwyd fel Brigantium gan y Galiaid.
Yn gorwedd yn y mynyddoedd tua 1,350 meter uwch lefel y môr, Briançon yw'r ddinas uchaf yn Ewrop ar ôl Davos yn y Swistir. Mae'n sefyll ar lwyfandir uchel o rhwng afonydd Durance a Guisane, sy'n cwrdd yma.
Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd Brigantium (Briançon) yn brifddinas y Brenin Cottius.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Ffrangeg) Gwefan Twristiaeth swyddogol