Brennus (4edd ganrif CC)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Brennus a addurnai long Ffrengig yn y 18fed neu'r 19eg ganrif

Roedd Brennus (neu Brennos) yn bennaeth o lwyth y Senones, llwyth Celtaidd oedd yn byw yng ngogledd yr Eidal yn y diriogaeth a elwid yn Gallia Cisalpina.

O gwmpas y flwyddyn 387 CC gorchfygodd byddin Geltaidd dan Brennus y Rhufeiniaid ym Mrwydr yr Allia, ac aethant ymlaen i gipio dinas Rhufain ei hun. Yr unig ran o'r ddinas nad oedd wedi ei meddiannu gan y Senones, yn ôl haneswyr Rhufeinig, oedd bryn y Capitol.

Bu raid i'r Rhufeiniaid dalu swm mawr o aur i achub y ddinas. Yn ôl y stori enwog, pan oeddynt yn talu'r aur i'r Senones, datblygodd ffrae ynghych y pwysau oedd yn cael eu defnyddio i fesur yr aur. Ymatebodd Brennus trwy daflu eu gleddyf ar ben y pwysau gyda'r geiriau "Vae victis" ("Gwae'r gorchfygedig").

Dywed y ffynonellau Rhufeinig fod y dadlau ynglŷn â'r pwysau wedi peri oedi a alluogodd Marcus Furius Camillus i gyrraedd gyda byddin a gorfodi'r Galiaid i adael y ddinas heb yr aur. Dywedir i Camillus orchfygu'r Galiaid mewn brwydr arall ac ennill y teitl Pater Patriae. Awgrymwyd gan rhai fod Brennus wedi gwneud cynghrair a Dionysius o Syracusa, oedd yn bwriadu ymosod ar gyngheiriaid Rhufain yn Sicilia. Awrymir ei fod ef wedi perswadio Brennus i ymosod ar Rufain o'r gogledd fel na allai'r Rhufeiniaid ymyrryd a'i gynlluniau.

Cred rhai mai teitl yn hytrach nag enw yw "Brennus"; mae cysylltiad â'r gair Cymraeg "brenin".

Llyfryddiaeth[golygu]