Bras melyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bras Melyn)
Bras Melyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Emberizidae
Genws: Emberiza
Rhywogaeth: E. citrinella
Enw deuenwol
Emberiza citrinella
Linnaeus, 1758
Emberiza citrinella
Emberiza citrinella

Mae'r Bras Melyn neu Melyn yr Eithin (Emberiza citrinella ) yn aelod o deulu'r Emberizidae, y breision. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia.

Nid yw'r Bras Melyn yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n arbennig o oer yn symud tua'r de. Yn y gaeaf maent yn aml yn casglu at ei gilydd yn heidiau. Maent yn hoffi tir agored gydag ychydig o goed neu lwyni fel rheol.

Gellir adnabod y Bras Melyn yn hawdd, yn enwedig y ceiliog. Mae'n aderyn gweddol o faint, 15.5–17 cm o hyd a gyda pig trwchus. Mae gan y ceiliog ben, bron a bol melyn a chefn brown. Nid yw'r iâr mor drawiadol, ond mae hithau yn dangos gwawr felyn fel rheol, er ei bod yn fwy brown. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Mae'r Bras Melyn yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru ond mae'n absennol o rai ardaloedd ac mae ei nifer wedi gostwng yn sylweddol yn yr 50 mlynedd diwethaf, efallai oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

Llên Gwerin[golygu | golygu cod]

”Pan oedden ni’n blant fuasen ni ddim yn rhoi’n llaw yn nyth y benfelen am bensiwn rhag ofn fod yno neidr. ‘Roedd y benfelen, medden’ nhw, yn was i’r neidr.”[1] Meddai Twm Elias: “byddai plant yn ofalus iawn wrth fynd i chwilio am y nyth am fod yna goel bod y marciau bach nadreddog ar yr wyau yn rhybudd bod nadroedd go iawn yn amddiffyn y nyth. Doedd hynny ddim yn bell o'r gwir oherwydd mi fyddai'r cynefin - yn enwedig y cloddiau pridd o gwmpas y cae eithin - yn addas iawn i wiberod! Mae 'gwas y neidr' yn enw arall ar y bras melyn, sy'n cadarnhau'r goel.” Mae nifer o enwau lleol ar yr aderyn (isod) hefyd yn awgrymu dosbarthiad eang i’r goel hon.

Enwau[golygu | golygu cod]

Emberiza citrinella

Enwau ‘melyn’ ac ‘aur’[golygu | golygu cod]

bras melyn (bras felen), melyn yr eithin, penfelyn, llinos felen, melynog, drinws felen (dynas felan, dinas felen), llafnes felen, snosen felen, hosen felan, bras yr ŷd melyn, aderyn melyn; penaur, y peneuryn,

Enwau ‘neidr’[golygu | golygu cod]

gwas y neidr, modryb y neidr, cneither y neidr, morw[y]n y neidr.

Enwau ’drain’ ac ‘eithin’[golygu | golygu cod]

drinws felen (“dinas felen” “dinas benfelen”). Tybir mai drain+ws yw dreinws[angen ffynhonnell].
melyn yr eithin, bras melyn yr eithin,

Ffynonellau unigol[golygu | golygu cod]

  • bras melyn (Perl y Plant Cyfrol 2 Rhif 22 tud 25 1901)
  • penfelyn (“Os torri di nyth Penfelyn/Mi gei gorco yn dy goffin” Enwau ereill arno yw “llinos felen”, “melyn yr eithin” a “melynog” Cyfaill Eglwysig Rhif 519 1910 tud 26)
  • llinos felen [gweler greenfinch]
  • 'drinws felen (“dinas felen” dinas benfelen” “y benfelen” “llinos felen” Nature in Wales (West Wales Field Society) Cyf 3 Rhif 3 tud 1957“)
  • gwas y neidr
  • ysgras (gweler drinws felan)
  • llafnes felen
  • penaur,
  • melynog,
  • dynas felan,
  • snosen felen,
  • hosen felan,
  • bras felen,
  • dinas felen,
  • y benfelen, (”Aderyn â phen melyn yw yr aderyn hwn. Adwaenir ef mewn rai mannau fel “morwyn y neidr” Cymru Cyf 29 1905 tud 36)
  • bras melyn yr eithin (“Bras Melyn yr Eithin” The Montgomeryshire Collections (issued by the Powys-land Club For the use of its members), Welshpool 1948)
  • llinos benfelen
  • deryn penfelyn (Aderyn Penfelyn “Perthyn i’r penfelyn enwau Cymraeg eraill nid amgen y penaur, y peneuryn, melynog, melyn yr eithin a’r llinos felen” Nature in Wales(West Wales Field Society) Cyf 2 Rhif 2 Gorff 1956 tud 22)
  • penfelen,
  • modryb y neidr,
  • cneither y neidr,
  • morw[y]n y neidr, (gweler ‘y benfelen’)
  • bwmp y pys,
  • drinus [sic.] bach,
  • drinus [sic.] felan (Drinws Felen” “Ysgras” Bras yr Ŷd Melyn” “Ysgidogyll” Cymru Cyf 19 1900 tud 58 “Tro Trwy’r Wig”)
  • Bras yr Ŷd Melyn (gweler drinus [sic.] felan)
  • ysgidogyll (heb ei gynnwys yn DL; Pila gwyrdd, Carduelis (spinus); ehedydd y coed, Lullula arborea yn ôl GPC)
  • dinas benfelen (Bangor), (“dinas benfelan” Atgofion am Gaernarfon T Hudson Williams Gwasg Gomer 1950 tud 71)
  • aderyn melyn,
  • bras yr ŷd (Llandysul),
  • peneuryn (“Clywir cainc y peneuryn (Melyn yr eithin)” Cylchgrawn Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru Cyf 25 Rhif 3 1969)
  • yellowhammer[2]

”Wrth yr enw Dinas Felen y byddwn ni yn adnabod [y bras melyn]”.[3] Llygriad o drinws yw dinas yma mae’n debyg?

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. “O Wythnos i Wythnos” John Roberts Williams, Cyhoeddiadau Mei, 1987, tud. 90.
  2. Rhagor o Enwau Adar: Dewi E Lewis a Chymdeithas Edward Llwyd
  3. Wil Evans, Y Glorian, 2010