Brandi
Oddi ar Wicipedia
Gwirod a wneir o wahanol fathau o ffrwythau, ond yn arbennig grawnwin, yw brandi. Daw'r gair o'r Iseldireg brandewijn.
Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig a Ffrainc, lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwys Cognac ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi mae Sbaen, yn enwedig ardal Jerez de la Frontera, ac Armenia.
Gellir hefyd defnyddio nifer o ffrwythau eraill i gynhyrchu brandi, er enghraifft Calvados, a wneir yn Normandi o afalau.