Branas Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Branas Uchaf
Mathadeilad, siambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandrillo Edit this on Wikidata
SirLlandrillo Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr152.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9243°N 3.46651°W, 52.925982°N 3.472267°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME070 Edit this on Wikidata

Fferm yn ne Sir Ddinbych yw Branas Uchaf lle ceir siambr gladdu Neolithig sydd i'w dyddio i ddiwedd y 4ydd fileniwm CC neu ddechrau'r 3ydd fileniwm CC. Mae'r safle yn gorwedd ar dir y fferm tua milltir a hanner i'r gorllewin o bentref Llandrillo ar lan ogleddol afon Dyfrdwy yn Edeirnion.

Siambr gladdu Branas Uchaf.

Gelwir y math yma o siambr gladdu yn feddrod siambr ac fe gofrestrwyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: ME070.[1]

Carnedd gron gyda siambr iddi (chambered round cairn) yw siambr gladdu Branas Uchaf. Mae'n gorwedd ar godiad o dir ar lan afon Dyfrdwy. Ceir tomen o bridd a cherrig gyda siambr yn ei chanol. Mae'r garnedd hon yn mesur 28 metr ar draws. Mae'r tywydd wedi erydu'r siambr fel bod y cerrig yn sefyll yn yr awyr agored rwan, yng nghanol y garnedd. Ceir sawl carreg arall yng nghyffiniau'r garnedd a dywedir yn lleol y bu cylch o gerrig o'i chwmpas ar un adeg ond nid yw archaeolegwyr yn meddwl fod hynny'n debyg. Credir i feini clo'r siambr gael eu cymryd i ffwrdd i'w defnyddio fel pyst giatau.[2]

Mae'r heneb yn gorwedd ar dir preifat ond gellir gweld y safle o'r ffordd gerllaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Data Cymru Gyfan, CADW
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, 'A Guide to Ancient and Historic Wales' (HMSO, Llundain, 1995), tud. 12-13.