Bram Stoker
Oddi ar Wicipedia
| Bram Stoker | |
|---|---|
Ffotograff o Stoker c. 1912 |
|
| Geni | 8 Tachwedd, 1847 Contarf, Dulyn, Iwerddon |
| Marw | 20 Ebrill, 1912 Llundain, Lloegr |
| Enwog am | Dracula |
| Galwedigaeth | Awdur |
Nofelydd a storïwr byrion Gwyddelig oedd Abraham "Bram" Stoker (8 Tachwedd 1847–20 Ebrill 1912). Erbyn heddiw, mae'n fwyaf adnabyddus am ei nofel Gothig Dracula o 1897. Yn ystod ei fywyd, roedd yn fwy adnabyddus fel cynorthwyydd personol i'r actor Henry Irving ac fel rheolwr busnes yn Theatr Lyceum yn Llundain a oedd yn eiddo i Irving.