Born on the Fourth of July (ffilm)
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Oliver Stone |
| Cynhyrchydd | A. Kitman Ho Oliver Stone |
| Ysgrifennwr | Nofel: Ron Kovic Sgript: Oliver Stone Ron Kovic |
| Serennu | Tom Cruise Kyra Sedgwick Raymond J. Barry Caroline Kava Jerry Levine Frank Whaley Willem Dafoe Josh Evans Cordelia González Holly Marie Combs |
| Cerddoriaeth | John Williams |
| Golygydd | Joe Hutshing David Brenner |
| Cwmni Cynhyrchu | Universal Pictures |
| Amser rhedeg | 145 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Addasiad ffilm o 1989 o hunangofiant Ron Kovic a ymladdodd yn Rhyfel Fietnam ydy Born on the Fourth of July. Chwaraea Tom Cruise ran Kovic, a chafodd ei enwebu am ei Wobr yr Academi cyntaf am ei berfformiad. Ysgrifennodd Oliver Stone (a frwydrodd yn Rhyfel Fietnam ei hun) y sgript ar y cyd gyda Kovic, yn ogystal a chynhyrchu a chyfarwyddo'r ffilm. Dyhead Stone oedd i wneud y ffilmio ei hun yn Fietnam, ond am nad y berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a Fietnam wedi normaleiddio bryd hynny, ffilmiwyd yn y Pilipinas yn lle.
Ystyrir y ffilm yn un o dair ffilm gan Oliver Stone am Ryfel Fietnam - ynghyd a Platoon (1986) a Heaven & Earth (1993). Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi a derbyniodd y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau a'r Golygu Gorau mewn Ffilm.
