Boris Tadić
| Boris Tadić Борис Тадић |
|
|
3ydd Arlywydd Serbia
|
|
| Cyfnod yn y swydd 11 Gorffennaf 1994 – 5 Ebrill 2012 |
|
| Rhagflaenydd | Milan Milutinović |
|---|---|
| Olynydd | Slavica Đukić Dejanović (dros dro) |
|
|
|
| Geni | 15 Ionawr 1958 Sarajevo, Iwgoslafia |
| Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
| Priod | Tatjana Tadić |
Arlywydd Gweriniaeth Serbia o 11 Gorffennaf 2004 hyd 5 Ebrill 2012 oedd Boris Tadić (Serbeg: Борис Тадић) (ganwyd 15 Ionawr, 1958 yn Sarajevo, Bosna-Hercegovina).
Seicolegydd ydyw o ran ei addysg, ond fel arweinydd y Blaid Ddemocrataidd ac Arlywydd y caiff ei adnabod gan fwyaf.
Ar y 27 Mehefin, 2004, etholwyd Tadić yn Arlywydd am gyfnod o bum mlynedd a thyngodd ei lw ar 11 Gorffennaf, 2004. Fe'i ailetholwyd am cyfnod pellach o 5 mlynedd ar 3 Chwefror, 2008 gan ddechrau ar Chwefror 15. Cyn ei waith fel Arlywydd bu'n Weinidog Telegyfathrebu Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia ac yn Weinidog Amddiffyn o Serbia a Montenegro.
Cafodd ei weld fel arweinydd sy'n driw i'r feddylfryd Gorllewinol ac yn medru cydweithio'n gytbwys gyda'r Unol Daleithiau a Rwsia. Trosglwyddwyd yr arweinyddiaeth, dros dro, i: Đukić-Dejanović.
| Arlywyddion Gweriniaeth Serbia | |
|---|---|
| Slobodan Milošević | Milan Milutinović | Boris Tadić | Slavica Đukić Dejanović (dros dro) | Tomislav Nikolić |