Bontnewydd (Arfon)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Bontnewydd

Mae Bontnewydd yn bentref gweddol fawr a chymuned ar y briffordd A487 fymryn i'r de o Gaernarfon; Cyfeirnod OS: SH 48300 60061. Daw'r enw o'r bont dros Afon Gwyrfai a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, er bod pont arall wedi cymeryd ei lle erbyn hyn.

Ar un adeg yr oedd Bontnewydd yn cael ei rannu rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda, gydag Afon Gwyrfai fel ffin rhyngddynt. Y tŷ hynaf yma yw Plas Dinas, a adeiladwyd yn y 17eg ganrif, sydd a gweddillion caer Dinas Dinoethwy o Oes yr Haearn o'i gwmpas.

Yn y Bontnewydd y magwyd y gwleidydd adnabyddus Dafydd Wigley.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato