Bontddu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bontddu a glannau Mawddach o Gadair Idris.

Treflan yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Bontddu. Mae'n gorwedd ar lan ogleddol afon Mawddach tua 3 milltir i gyfeiriad y gorllewin o dref Dolgellau. Cyfeirnod OS: SH 67151 18824.

Mae briffordd yr A496 yn rhedeg trwy Bontddu, a enwir ar ôl pont sy'n dwyn y ffordd honno dros afon Cwm Llechen. Mae'r ffordd yn cysylltu Bontddu ag Abermaw i gyfeiriad y gorllewin a Llanelltud, ger Dolgellau, i'r cyfeiriad arall.

Mae lôn gul yn rhedeg i fyny i gyfeiriad bryniau'r Rhinogydd i'r gogledd o'r pentref.

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato