Bond cofalent

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bondio cofalent rhwng dau atom hydrogen, H2.

Mae bond cofalent yn ffurf o fondio cemegol lle câi electronau eu rhannu gan atomau.

Yn syml, er mwyn i atomau fod yn sefydlog mae'n rhaid iddynt gael plisgyn allanol llawn o electronau, ac un ffordd o wneud hyn yw bondio'n gofalent gydag atomau eraill trwy rhannu electronau, fe fydd hyn yn digwydd fel arfer rhwng 2 anfetel lle bydd yr electronnau yn cael eu rhannu ac felly fe unwyd y ddau atom i greu plisgyn allanol llawn ac felly moleciwl sefydlog (heb wefr).

Mae bondio cofalent yn cynnwys nifer o wahanol fathau o ryngweithiadau gan gynnwys bondio-σ, bondio-π, bondio rhwng dau fetel, rhyngweithiau agostig, ayyb. Crewyd y term bond cofalent yn 1939. Cyd-olygir y rhagddodiad (pan gysylltir â symudiad), wedi'i bartneru, ac felly mae'r atomau yn rhannu electronau.

Yn wahanol i ryngweithiau electrostatig rhwng bondiau ïonig, mae cryfder y bond cofalent yn dibynnu ar y berthynas onglog rhwng yr atomau mewn moleciwl polyatomog.

Gweler hefyd[golygu]

Chem template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.