Bollt

Oddi ar Wicipedia
Bollt
Mathjoining technology, threaded fastener, metal product, offeryn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbar iron Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nyten a bollt

Math o ffasnydd gyda rhigolau ac edau gwrywaidd allanol arno yw bollt. Mae'r bollt yn edrych yn debyg i sgriw, ac yn aml yn cael ei gamgymryd am sgriw.[1]

Mae sgriw yn wahanol i follt oherwydd nid oes modd tynhau nyten ar sgriw, ac mae ei edau heligol yn cael ei defnyddio i dorri i mewn i ddeunydd meddalach (er enghraifft coed).

Nid yw'r gwahaniaeth yma'n amlwg bob amser, ac weithiau mae sgriwiau'n cael eu galw'n folltau heb nyten.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bolt | Definition of Bolt by Merriam-Webster". Merriam-webster.com. Cyrchwyd 11 Ebrill 2016.