Bogailsyllu

Oddi ar Wicipedia
Bogailsyllu
Mathmyfyrdod Edit this on Wikidata

Gorchwyl sydd yn canolbwyntio ar ei hunan yw bogailsyllu[1] a ddefnyddir i gynorthwyo myfyrdod. Daw'r term o'r gred Fwdhaidd taw'r fogail yw ffynhonnell bywyd, sy'n wir i raddau wrth ystyried swyddogaeth y llinyn bogail yn y groth.[2]

Defnyddir y term yn aml yn ffraeth i ddisgrifio egotistiaeth a gorchwylion sydd yn hunanobsesiynol neu sy'n canolbwyntio'n ormodol ar eu hunain,[3] er enghraifft ffilmiau am Hollywood neu actiau digrifwyr ar eu sefyll sy'n trafod natur comedi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 929 [to contemplate one's navel].
  2. Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 916.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru, [bogailsyllu].