Bobigny
Oddi ar Wicipedia
Bobigny yw canolfan weinyddol département Seine-Saint-Denis yn région Île-de-France yn ardal Paris, Ffrainc. O ran poblogaeth, saf yn ddeuddegfed ymhlith trefi Seine-Saint-Denis, gyda 48,159 o drigolion yn 2006. Saif ar gyrion gogledd-ddwyrain Paris.
Enwyd y dref ar ôl Balbinius, cadfridog Rhufeinig a adeiladodd fila yma.