Bobby Robson

Oddi ar Wicipedia
Bobby Robson
Robson yng ngêm Gweriniaeth Iwerddon yn
erbyn Slofacia, Parc Croke, Dulyn, 2007.
Manylion Personol
Enw llawn Robert William Robson
Dyddiad geni 18 Chwefror 1933(1933-02-18)
Man geni Sacriston, Swydd Durham, Baner Lloegr Lloegr
Dyddiad marw 31 Gorffennaf 2009(2009-07-31) (76 oed)
Lle marw Swydd Durham, Baner Lloegr Lloegr
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1950–1956
1956–1962
1962–1967
1967–1968
Fulham
West Bromwich Albion
Fulham
Vancouver Royals
152 (68)
239 (56)
192 (9)
Tîm Cenedlaethol
1957–1962 Lloegr 20 (4)
Clybiau a reolwyd
1968
1969–1982
1982–1990
1990–1992
1992–1994
1994–1996
1996–1997
1998–1999
1999–2004
Fulham
Ipswich Town
Lloegr
PSV Eindhoven
Sporting CP
Porto
Barcelona
PSV Eindhoven
Newcastle United

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Roedd Syr Robert William "Bobby" Robson CBE (18 Chwefror 193331 Gorffennaf 2009) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol a chyn-reolwr nifer o dîmau pêl-droed Ewropeaidd a thîm cenedlaethol Lloegr.

Parhaodd ei yrfa broffesiynol fel blaenwr-mewnol am bron i ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, chwaraeodd i dri tîm yn unig - Fulham, West Bromwich Albion a chyfnod byr gyda'r Vancouver Royals. Chwaraeodd i dîm Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedwar gôl.

Roedd yn fwy adnabyddus am ei lwyddiant fel rheolwr clybiau a thîmau rhyngwladol, gan ennill pencampwriaethau cynghrair yn yr Iseldiroedd a Phortiwgal, gan ennill tlysau yn Lloegr a Sbaen, ac am arwain tîm Lloegr i'r rownd gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd ym 1990. Yn fwy diweddar, gweithiodd fel mentor i reolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon.

Urddwyd Robson yn 2002, ac mae'n aelod o Rodfa Enwogion Pêl-droedwyr Lloegr. Ef hefyd oedd llywydd anrhydeddus Ipswich Town Ers 1991, bu'n dioddef o gancr ac ym mis Awst 2008, dywedodd fod cancr yr ysgyfaint wedi ei drechu. Dywedodd: "My condition is described as static and has not altered since my last bout of chemotherapy...I am going to die sooner rather than later. But then everyone has to go sometime and I have enjoyed every minute."

Bu farw Bobby Robson yn y bore ar y 31 Gorffennaf, 2009.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Football legend Robson dies at 76. Gwefan y BBC. 31-07-2009 Adalwyd ar 31-07-2009