Bloody Sunday Derry 1972

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Murlun yn y Bogside, Belffast, yn dangos y Tad Daly yn ceisio arwain protestwyr clwyfedig i ddiogelwch

Dyma'r enw a roddir ar yr hyn a ddigwyddodd yn Derry, Gogledd Iwerddon, ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972.

Saethwyd 26 o brotestwyr hawliau sifil gan filwyr Prydeinig, yn bennaf gan uned o 2 Para (The 2nd Battalion The Parachute Regiment). Lladdwyd 13, 6 ohonynt yn blant o 17 oed, ar y dydd gydag un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad. Tystiodd pobl a welodd y digwyddiad, gan gynnwys gohebwyr, fod pawb a saethwyd heb arfau. Roedd pum o'r rhai a glwyfwyd wedi cael eu saethu yn eu cefn. Roedd y rhai a laddwyd yn cynnwys offeiriad Catholig a geisiodd ymgeleddu un o'r sifiliaid eraill a oedd yn gorwedd ar lawr wedi'i saethu.

Credir fod y gyflafan wedi bod yn ergyd marwol i'r mudiad hawliau sifil di-drais yng Ngogledd Iwerddon ac yn hwb sylweddol i'r IRA ac eraill a ddadleai mai ymladd arfog oedd yr unig ateb.

Cafwyd ymholiad swyddogol i'r digwyddiad dan arolygiaeth yr Ustus Wiggins a dderbyniodd adroddiad y Fyddin Brydeinig. Ni chafodd neb o'r milwyr yn euog ac anrhydeddwyd aelodau o 2 Para gan Frenhines y DU yn nes ymnlaen.

[golygu] Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol