Blida
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd Algeria yw Blida (Arabeg: البليدة ). Mae'n gorwedd ger arfordir ychydig i'r de o'r brifddinas, Alger, tua hanner ffordd rhwng Constantine i'r dwyrain ac Oran i'r gorllewin. Roedd ganddi boblogaeth o tua 264,598 yn 2005 (amcangyfrifiad).
Lleolir Blida ar y brif reilffordd arfordirol sy'n rhedeg ar draws gogledd Algeria. Mae ffyrdd yn cysylltu'r ddinas ag Alger, Oran a Constantine, ac â'r Sahara Algeriaidd i'r de.