Bleiddgi Tsiecoslofacaidd

Oddi ar Wicipedia
Bleiddgi Tsiecoslofacaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi, canid hybrid Edit this on Wikidata
Màs26 cilogram, 20 cilogram Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pâr o Fleiddgwn Tsiecoslofacaidd.

Bleiddgi sy'n tarddu o Tsiecoslofacia yw'r Bleiddgi Tsiecoslofacaidd(Tsieceg: Československý vlčák, Slofaceg: Československý vlčiak). Cafodd ei greu yn y 1950au drwy groesi Cŵn Defaid Almaenig â bleiddiaid o Fynyddoedd Carpathia.

Ci cyflym, di-ofn, a gwyn yw'r Bleiddgi Tsiecoslofacaidd. Mae'n amau pobl ddieithr, ond yn ffyddlon ac yn ufudd i'w feistr. Am y rheswm honno, fe'i cedwir yn aml fel gwarchotgi yn y tŷ. Mae ganddo gôt o flew syth o liw melynllwyd, gyda blew llwydwyn ar ei wyneb, ac ewinedd tywyll. Mae'n tyfu i ryw 60–65 cm ar ei sefyll, ac yn pwyso 20–26 kg. Fel arfer, mae'n byw am 12 i 16 mlynedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kathryn Hennessy et al., The Dog Encyclopedia (Llundain: Dorling Kindersley, 2013), t. 40.