Bir El Hafey
Oddi ar Wicipedia
Tref yng nghanolbarth Tunisia yw Bir El Hafey, a leolir 36 km i'r de-orllewin o ddinas Sidi Bouzid yn rhagfryniau deheuol Dorsal Tunisia.
Mae'n rhan o dalaith Sidi Bouzid ac yn fwrdeistref o 5,589 o bobl (2004). Hefyd mae'n ganolfan weinyddol dosbarth (délégation) gyda phoblogaeth o 33,979.
Mae'n gorwedd ar gyffordd ar y briffordd GP3 Kairouan-Gafsa gyda ffordd leol yn ei chysylltu hefyd â Sidi Bouzid, prifddinas y dalaith.