Bingu wa Mutharika
Oddi ar Wicipedia
Arlywydd Malawi oedd Bingu wa Mutharika (24 Chwefror, 1934 - 5 Ebrill 2012).
Ganed ef fel Brightson Webster Ryson Thom yn Thyolo, tua 30km o Blantyre. Newidiodd ei enw i'r enw teuluol Mutharika a mabwysiadu Bingu fel enw cyntaf yn y 1960au. Bu'n astudio yn yr Unol Daleithiau, a daeth yn economegydd, yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig am flynyddoedd.
Daeth yn Arlywydd Malawi ar 24 Mai 2004, fel olynydd i Bakili Muluzi, ar ôl ennill yr etholiad arlywyddol.
Bu farw yn Lilongwe.