Billy Zane
Oddi ar Wicipedia
| Billy Zane | |
|---|---|
Billy Zane |
|
| Ganwyd | 24 Chwefror, 1966 Chicago, Illinois, |
| Enwau eraill | William George "Billy" Zane |
| Yn enwog am | Titanic, Back to the Future |
| Galwedigaeth | Actor, cyfarwyddwr, model |
Actor a chyfarwyddwr Americanaidd yw William George "Billy" Zane, Jr. (ganwyd 24 Chwefror 1966). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Caledon Hockley yn y ffilm lwyddiannus o 1997 Titanic, fel y gwallgofddyn Hughie Warriner yn Dead Calm, John Justice Wheeler yn Twin Peaks, ac fel The Phantom yn ffilm 1996 o'r un enw a oedd yn seiliedig ar yr arwr yn y llyfr comic. Erbyn 2009, roedd Zane wedi ymddangos mewn dros 50 ffilm a nifer o gyfresi teledu.