Betws-yn-Rhos

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Betws yn Rhos)
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Betws yn Rhos

Pentref, plwyf, a chymuned yn ardal Rhos, bwrdeistref sirol Conwy, yw Betws yn Rhos (Betws-yn-Rhos).

Fe'i lleolir yng nghefn gwlad Rhos tua 5 milltir i'r de o drefi arfordirol Abergele a Bae Colwyn. Rhed y ffordd B5821 trwy'r pentref, gan ei gysylltu â Llanelwy i'r dwyrain a Llansantffraid Glan Conwy i'r gorllewin. Mae gan y gymuned boblogaeth o 1923 (Cyfrifiad 2001).

Gorwedd mewn ardal o fryniau isel rhwng afon Dulas ac afon Elwy. Dwy filltir i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer hynafol Pen y Corddyn.

Ganed y llenor enwog Thomas Gwynn Jones yn Y Gwyndy Uchaf ym mhlwyf Betws yn Rhos, ond symudodd y teulu i fyw yn Llaneilian-yn-Rhos lle treuliodd ei lencyndod. Ceir atgofion y bardd am yr ardal ym mhennof gyntaf ei gyfrol hunangofiannol Brithgofion (Llyfrau'r Dryw, 1941).

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill