Betty Williams
Gwleidydd Llafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 31 Gorffennaf 1944 ym Mangor). Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010.
[golygu] Bywyd Cynnar
Roedd Williams yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, gan symud ymlaen i'r Coleg Normal ym Mangor. Mae gan Williams BA o Brifysgol Cymru, ac erbyn hyn mae hi'n cymrodwraig anrhydeddus Prifysgol Cymru, Bangor. Gwraig i Evan Williams yw hi, ac mae ganddynt dau fab.
[golygu] Gyrfa Gwleidyddol
Ym 1967 cafodd Williams ei ethol i fod yn maer Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Cynghorwraig Ardal, ac yna Faer Arfon yn 1990. Bu hi'n aflwyddiannus yn cystadlu etholaethau Caernarfon yn 1983, a Chonwy yn 1987 a 1992. Dewisiwyd eto gan y Blaid Lafur i gystadlu etholaeth Conwy yn 1995 ar cofrestru benywaidd yn unig. Rhag y datganiad fod y dull yma yn un anghyfreithlon, bu Williams yn cadw'r hawl i gystadlu'r set. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd Williams ei ethol gyda mwyafrif o 1,596.
Heddiw, mae Williams yn aelod ar pwyllgorau addysg a chyflogaeth, Iechyd a Nawdd Cymdeithasol, a Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon dros y Blaid Lafur y Senedd. Cydnabyddwyd Williams fel aelod teyrngar i'r blaid ac i Brif Weinidog y DU, Gordon Brown.
Ym Medi 2008, datganodd Williams nad fydd hi'n cystadlu ei set yn yr etholiad nesaf i'w galluogi i fedru newid cydbwysedd ei gwaith.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Wyn Roberts |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1997 – 2010 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |