Bessie Braddock

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd Llafur o Saesnes oedd Elizabeth Margaret Braddock YH (24 Medi 189913 Tachwedd 1970), a adnabyddir yn well fel Bessie Braddock.

Yn enedigol o Lerpwl, ymaelododd â'r Blaid Lafur yn 1925 ar ôl cyfnod byr fel aelod o'r Blaid Gomiwnyddol. Daeth yn ffigwr amlwg yng ngwleidyddiaeth leol Lerpwl a gwasanaethodd fel arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl o 1955 hyd 1961 ac eto ym Mai 1963.

Cafodd ei hethol yn AS dros Gyfnewidfa Lerpwl (Liverpool Exchange) yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1945, a daliodd y swydd am 24 mlynedd. Roedd hi'n sosialydd brwd a adnabyddid fel "Battling Bessie". Rhoddwyd 'Rhyddid Dinas Lerpwl' i Braddock gan gyngor y ddinas yn 1970, ychydig cyn ei marwolaeth.

Cofir Braddock yng Nghymru hyd heddiw fel un o brif arweinwyr y cynllun gan Gorfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn yng ngogledd Cymru, a hynny yn wyneb gwrthwynebiad bron pob AS Cymreig.

Fe'i cofir hefyd fel gwrthrych un o ripostes enwocaf Winston Churchill:

Braddock: "Mr. Churchill, this is a disgrace. You are quite drunk."
Churchill: "And you, madame, are ugly. As for my condition, it will pass by the morning. You, however, will still be ugly."
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill