Berwick-upon-Tweed
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Berwick)
Tref fwyaf gogleddol Lloegr yw Berwick-upon-Tweed. Saif yn sir Northumberland, ger aber afon Tweed. Mae 2.5 milltir (4 km) i'r de o'r ffîn rhwng Lloegr a'r Alban. Roedd y boblogaeth yn 11,665 yn 2001.
Bu llawer o ymladd rhwng yr alban a Lloegr o'r 11eg ganrif ymlaen ynghych Berwick, a bu'n rhan o'r ddwy wlad ar brydiau. Wedi i Edward I, brenin Lloegr gipio'r dref yn 1296, lladdodd nifer fawr o'r trigolion. Mae wedi bod yn rhan o Loegr ers 1482.
Erys nifer o gysylltiadau a'r Alban, er enghraifft mae timau peldroed a rygbi'r undeb y dref yn chwarae yng nghyngrair yr Alban yn hytrach na Lloegr. Roedd Deddf Cymru a Berwick 1746 yn datgan fod unrhyw gyfeiriad at "Lloegr" yn cynnwys Cymru a Berwick.