Bernardo Atxaga
Awdur a llenor Basgaidd yw Bernardo Atxaga (defnyddia'r ffugenw Joseba Irazu Garmendia).
Ganwyd Atxaga yn Asteasu, Gipuzkoa, Gwlad y Basg, ar 27 Gorffennaf, 1951. Derbyniodd ddiploma mewn economeg oddiwrth Brifysgol Bilbo, ac fe astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Barcelona. Gweithiodd fel economegydd, gwerthwr llyfrau, Athro ar yr iaith Fasgeg, cyhoeddwr, ac ysgrifenwr sgripriau ar gyfer y radio hyd at 1980 pan ymroddodd ei hun yn llwyr i ysgrifennu.
Cyhoeddwyd ei waith cyntaf, sef antholeg am awduron Basgeg, yn 1972. Cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf, Ziutateaz ("Am y Ddinas"), yn 1976. Ymddagosodd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Etiopia ("Ethiopia"), yn 1978. Mae wedi ysgrifennu dramau, geiriau i ganeuon, nofelau a straeon byrion. Daeth ei lyfr o straeon byrion, Obabakoak ("Unigolion a phethau o Obaba"), a gyhoeddwyd yn 1988, â llawer o amlygrwydd a gwobrau iddo, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen. Mae'r llyfr wedi ei gyfieithu i fwy na 20 iaith.
Fel rheol, fe ysgrifenai Atxaga yn y Fasgeg a chyfieithu ei waith i'r Sbaeneg. Yn dilyn Obabakoak, mae nifer o'i waith wedi eu trosi i ieithoedd eraill.
Mae'n byw yn Reno, UDA ar hyn o bryd.
Cynnwys |
Nofelau [golygu]
- Obabakoak (1988)
- Behi euskaldun baten memoriak ("Atgofion Buwch Basgaidd", Pamiela, 1991)
- Gizona bere bakardadean ("Y Dyn Unig", Pamiela, 1993)
- Zeru horiek ("Y Ddynes Unig", 1996)
- Soinujolearen semea ("Mab Chwaraewr yr Acordian", 2003
Straeon byrion [golygu]
- Bi anai ("Dau Frawd", Erein, 1985)
- Bi letter jaso nituen oso denbora gutxian ( "Dau Lythyr", Erein, 1985)
- Henry Bengoa inventarium, Sugeak txoriak begiratzen dionean, Zeru horiek ("Dyfeisle Henry Bengoa. Pan Edrychith Neidr ar yr Adar, Y Ddynes Unig", Erein, 1995)
- Sara izeneko gizona ("Y Dyn O'r Enw Sara", Pamiela, 1996)
Barddoniaeth [golygu]
- Etiopia ("Ethiopia", Pott, 1978),
- Nueva Etiopia ("Ethiopia Newydd", Detursa, 1997)
Llyfrau Plant [golygu]
- Chuck Aranberri dentista baten etxean ("Chuck Aranberri Mewn Deintyddfa", Erein, 1985)
- Nikolasaren abenturak, Ramuntxo detektibe ("Anturiaethau Nicholas, Ditactif Ramuntxo", Elkar 1979)
- Siberiako ipuin eta kantak ("Staeon a Chaneuaon Siberia", Erein)
- Jimmy Potxolo, Antonino apreta, Asto bat hipodromoan, Txitoen istorio, Flannery eta bere astakiloak (Elkar)
- Xolak badu lehoien berri (Erein, 1995),
- Xola eta basurdeak ("Xola a'r Baeddau Gwyllt", Erein 1996) - ennillydd Gwobr Llenyddiath Basgeg i Blant yn 1997
- Mundua eta Markoni ("Y Byd a Markoni", BBK fundazioa, 1995)
Gwaith eraill [golygu]
- Ziutateaz (1976)
- Lekuak (2005)
Dolen allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol (Basgeg) (Saesneg) (Sbaeneg)