Bernard Madoff
Cyn-ddyn busnes, brocer stoc, cynghorwr buddsoddi, ac ariannwr Americanaidd yw Bernard Lawrence "Bernie" Madoff (
/ˈmeɪdɒf/;[1] ganwyd 29 Ebrill 1938). Ef yw cyn-gadeirydd anweithredol y farchnad stoc NASDAQ, ac ef oedd tu ôl i'r cynllun Ponzi mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.
Ym mis Mawrth 2009, plediodd Madoff yn euog i 11 o feloniaethau: twyll gwarantau, twyll cynghori buddsoddwyr, twyll post, twyll gwifr, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i alluogi twyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i guddio elw o dwyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon, gwneud datganiadau anwireddus, anudoniaeth, gwneud cofnod anwireddus â'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid, a lladrad o gynllun budd-daliadau gweithwyr.[2] Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am 150 mlynedd.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Voice of America pronunciation guide". Voice of America. http://names.voa.gov/SearchAction.cfm?searchtype=2&Name2=madoff. Adalwyd 29 Mai 2012.
- ↑ (Saesneg) Transcript of 3/12/09 Guilty Plea Proceeding. Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 29 Mai 2012.
- ↑ Healy, Jack (29 Mehefin 2009). "Madoff Sentenced to 150 Years for Ponzi Scheme". The New York Times. http://www.nytimes.com/2009/06/30/business/30madoff.html?_r=1&hp. Adalwyd 29 Mai 2012.