Bergamot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bergamot
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Monarda
Rhywogaeth: M. didyma
Enw deuenwol
Monarda didyma
L.

Blodyn blodeuol pinc neu goch ydy'r Bergamot (Saesneg: Bergamot; Lladin: Monarda didyma) sydd hefyd yn berlysieuyn gydag arogl bendigedig. Planhigyn o ogledd America ydyw a benthyciwyd yr enw Lladin gan y botanegwr Nicolas Monardes, ym 1569. Mae fel arfer i'w weld yn tyfu mewn ffos neu ar lethr.

Disgrifiad o'r planhigyn[golygu]

Gall dyfu rhwng 0.7 ac 1.5 metr o ran uchder ac mae'r bonyn yn sgwâr mewn croes-doriad. Mae'r dail rhwng 6 - 15 cm o ran hyd ac wedi'u gosod gyferbyn â'i gilydd. Maent yn wyrdd tywyll o ran lliw gyda gwythiennau rhuddgoch yn llifo drwyddynt ac ymylon danheddog. Mae'r blodau coch llachar rhwng 3 - 4 cm yn eu hyd a cheir clystyrau o tua 30 ohonynt ar un planhigyn. Blodeua ganol yr haf hyd at ei ddiwedd.

Rhinweddau meddygol[golygu]

Indiaid 'Troed-ddu' oedd y cyntaf i weld gwerthu yn y planhigyn hwn o ran ei rinweddau iachusol, yn enwedig fel gwrthseptig ac mewn pwltis ar gyfer toriadau a heintiau ar y croen. Roedden nhw hefyd yn ei yfed fel te i wella wlser yn y geg a dolur gwddw. Mae cryn lawer o 'thymol' mewn Bergamot, sef prif gynhwysyn glanhawr ceg, modern. Fe'i defnyddiwyd hefyd gan yr Indiaid i wella gwynt yn y bol.[1]

Dywedir hefyd y gall wella: cur pen, anwyd, taflu i fyny a gellir bwyta neu yfed y blodyn hefyd. Gan ei fod yn arogli yn debyg iawn i de Earl Grey, fe roddir y blodyn i arnofio ar y te hwnnw mewn rhai tai bwyta, am hwyl. Defnyddir ef hefyd mewn potpourris.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Edible and Medicinal Plants of the West, Gregory L. Tilford, ISBN 0-87842-359-1
  2. Gwefan Saesneg Conrad Richter

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]