Bera Mawr
Oddi ar Wicipedia
| Bera Mawr (Y Carneddau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Bera Mawr o ben Yr Aryg. |
| Uchder (m) | 794 |
| Uchder (tr) | 2605 |
| Amlygrwydd (m) | 30 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH674682 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri, Gwynedd yw Bera Bach. Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd-orllewin oddi ar brif grib y Carneddau ger Garnedd Uchaf.
Er gwaethaf yr enwau, mae Bera Mawr ychydig yn is na chopa Bera Bach gerllaw, sy'n 807 medr. Gellir ei ddringo yn weddol hawdd o bentref Bethesda, gan ddringo i'r copa llai Gryn Wigau gyntaf, yna i Drosgl ac ymlaen i Bera Bach a Bera Mawr. Gellir hefyd dringo Bera Mawr o Abergwyngregyn heibio'r rhaeadr.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'