Benjamin Hoadly
Clerigwr Anglicanaidd o Sais a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn esgob mewn nifer o esgobaethau yn Lloegr oedd Benjamin Hoadly, weithiau Benjamin Hoadley (14 Tachwedd 1676 – 17 Ebrill 1761.
Addysgwyd ef yng Ngoleg Santes Catrin, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1701 a bu'n rheithor St. Peter-le-Poor, Llundain, o 1704 hyd 1724. Daeth yn gaplan i Sior I.
Cynnwys |
[golygu] Esgob Bangor
Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1716. Ef oedd y cyntaf mewn olyniaeth o esgobion Seisnig a barhaodd hyd 1890.
Bu cryn anghydfod a dicter ymhlith y Cymry pan glywyd fod Sais wedi cael ei apwyntio yn Esgob Bangor. Teithiodd Hoadly ar hyd yr A5 hyd at Amwythig gyda'r bwriad o gymryd meddiant o'i esgobaeth newydd. Pan sylweddodd Cymry'r dref honno ei fod yno, daeth torf ohonynt at ei gilydd a rhwystrwyd cerbyd Hoadly ar y bont sy'n croesi Afon Hafren. Bu'n rhaid iddo droi yn ei ôl a dywedir er iddo ddal y swydd am gyfnod o chwe blynedd ni osododd ei droed i lawr gymaint ag unwaith yn ei esgobaeth. Cymaint oedd y casineb tuag ato fel y bu bron iawn i brelad Gwyddelig gael ei gamdrin yn gorfforol gan dorf ym Mangor pan ddigwyddai fynd trwy'r ddinas ar ei ffordd i Gaergybi ar ôl i rywun feddwl mai Broadly oedd ef.[1]
[golygu] "Y Ddadl Fangoraidd"
Yn 1717, dechreuodd ei bregeth ar "Natur Teyrnas Crist" yr hyn a elwir Y Ddadl Fangoraidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i dair esgobaeth yn Lloegr. Darluniwyd ef gan William Hogarth (1697-1764) pan oedd yn Esgob Caerwynt tua 1743.
[golygu] Gweithiau
- A Defence of the Reasonableness of Conformity (1707)
- A Plain Account of the Nature and End of the Sacrament of the Lord's Supper (1735)
- The Repeal of the Corporation and Test Acts (1736)
[golygu] Llyfryddiaeth
- William Gibson: Enlightenment Prelate: Benjamin Hoadly, 1676-1761. Caergrawnt, 2004, ISBN 978-0-227-67978-4.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ "Glan Menai", 'Y prif ddigwyddiadau hanesyddol yn dwyn perthynas â Bangor a'r gymdogaeth', Trafodion Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890 (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1892), tud, 180.