Bend it Like Beckham
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Gurinder Chadha |
| Cynhyrchydd | Gurinder Chadha Deepak Nayar |
| Ysgrifennwr | Gurinder Chadha Guljit Bindra Paul Mayeda Berges |
| Serennu | Parminder Nagra Keira Knightley Jonathan Rhys-Meyers Anupam Kher Shaznay Lewis Archie Panjabi |
| Cerddoriaeth | Craig Pruess |
| Sinematograffeg | Jong Lin |
| Golygydd | Justin Krish |
| Cwmni Cynhyrchu | Helkon SK, Fox Searchlight Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 11 Ebrill, 2002 |
| Amser rhedeg | 112 munud |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg Punjabi, Almaeneg, Hindi |
Ffilm Brydeinig yw Bend It Like Beckham, sy'n serennu Parminder Nagra a Keira Knightley. Rhyddhawyd y ffilm yn 2002 yn y DU ac ym mis Mawrth 2003 yng Nghanada a'r India. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Gurinder Chadha. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y pêl-droediwr David Beckham a'i allu ef i sgorio o giciau cosb trwy "blygu'r" bêl (gwneud i'r bêl droi wrth iddo hedfan drwy'r awyr).
