Benazir Bhutto

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Benazir Bhutto
Benazir Bhutto.jpg
Benazir Bhutto
Ganwyd 21 Mehefin 1953(1953-06-21)
Karachi, Baner Pakistan
Bu farw 27 Rhagfyr 2007 (54 oed)
Rawalpindi, Punjab, Baner Pakistan
Cenedligrwydd Pacistani
Galwedigaeth Gwleidydd
Priod Asif Ali Zardari

Gwleidydd o Bacistan oedd Benazir Bhutto (21 Mehefin 195327 Rhagfyr 2007). Bhutto oedd y ddynes gyntaf erioed i gael ei hethol i arwain gwlad Fwslimaidd yn y cyfnod ôl-drefedigaethol.

Ganwyd Bhutto yn Karachi, yn blentyn hynaf Zulfikar Ali Bhutto, cyn arweinydd Pacistan, o dalaith Sindh, a Begum Nusrat Bhutto, merch Bacistanaidd o dras Iranaidd a Chyrdaidd. Ei thaid ar ochr ei thad oedd Syr Shah Nawaz Bhutto a ddaeth i Larkana Sindh cyn ymraniad is-gyfandir India o'i dref enedigol Bhatto Kalan (yn nhalaith Indiaidd Haryana heddiw).

Cafodd ei hethol yn Brif Weinidog Pacistan ddwywaith. Y tro cyntaf oedd ym 1988 ond cafodd ei gorfodi i adael ei swydd ar ôl 20 mis dan orchymyn yr arlywydd ar y pryd Ghulam Ishaq Khan ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn llwgr. Ym 1993 cafodd Bhutto ei hethol yn Brif Weinidog am yr ail dro, ond cafodd ei symud o'r swydd ar yr un cyhuddiadau unwaith yn rhagor, ym 1996, gan yr Arlywydd Farooq Leghari.

Aeth Bhutto yn alltud gwirfoddol yn Dubai ym 1998, lle arhosodd nes iddi ddychwelyd i Bacistan ar 19 Hydref, 2007, ar ôl dod i gytundeb dadleuol gyda'r Cadfridog Musharraf a roddwyd iddi amnest a dileu pob cyhuddiad o lygredd.

Cafodd Bhutto ei bradlofruddio ar 27 Rhagfyr, 2007, mewn ymosodiad terfysgol ar ôl rali gan ei phlaid, Plaid Pobl Pakistan, yn Rawalpindi. Cafodd ei saethu gan yr ymosodwr a chwythodd ei hun i fyny wedyn gan ladd tuag 20 o bobl eraill. Bu Benazir farw yn yr ysbyty am 1320 UTC.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Benazir Bhutto[golygu]

  • Benazir Bhutto, (1983), Pakistan: The gathering storm, Vikas Pub. House, ISBN 0-7069-2495-9
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of the East, Hamish Hamilton. ISBN 0-241-12398-4
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of Destiny: An Autobiography. Simon & Schuster. ISBN 0-671-66983-4

Llyfrau am Benazir Bhutto[golygu]

  • W.F.Pepper, (1983), Benazir Bhutto, WF Pepper, ISBN 0-946781-00-1
  • Rafiq Zakaria (1990), The Trial of Benazir, Sangam Books. ISBN 0-86132-265-7
  • Katherine M. Doherty, Caraig A. Doherty , (1990), Benazir Bhutto (Impact Biographies Series), Franklin Watts, ISBN 0-531-10936-4
  • Rafiq Zakaria, (1991), The Trial of Benazir Bhutto: An Insight into the Status of Women in Islam, Eureka Pubns, ISBN 967-978-320-0
  • Diane Sansevere-Dreher, (1991), Benazir Bhutto (Cyfres Changing Our World), Bantam Books (Mm), ISBN 0-553-15857-0
  • Christina Lamb, (1992), Waiting for Allah, Penguin Books, ISBN 0-14-014334-3
  • M. Fathers, (1992), Biography of Benazir Bhutto, W.H. Allen / Virgin Books, ISBN 0-245-54965-X
  • Elizabeth Bouchard, (1994), Benazir Bhutto: Prime Minister (Library of Famous Women), Blackbirch Pr Inc, ISBN 1-56711-027-4
  • Iqbal Akhund, (2000), Trial and Error: The Advent and Eclipse of Benazir Bhutto, OUP Pakistan, ISBN 0-19-579160-6
  • Libby Hughes, (2000), Benazir Bhutto: From Prison to Prime Minister, Backinprint.Com, ISBN 0-595-00388-5
  • Mercedes Anderson, (2004), Benazir Bhutto (Cyfres Women in Politics), Chelsea House Publishers, ISBN 0-7910-7732-2
  • Mary Englar, (2007), Benazir Bhutto: Pakistani Prime Minister and Activist, Compass Point Books, ISBN 0-7565-1798-2