Ben Guerdane
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan yn nhalaith Medenine yn ne-ddwyrain eithaf Tunisia yw Ben Guerdane. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,000.
Gorwedd y dref tua 35 km o'r ffin rhwng Tunisia a Libya. Pan osodwyd embargo cludiant awyr ar y wlad honno yn 1992 am ei bod yn cael ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am fomio'r awyren a syrthiodd ar Lockerbie, yr Alban, cafodd Ben Guerdane gyfnod llewyrchus oherwydd ei lleoliad ar un o'r ddwy ffordd sy'n cysylltu Libya â gweddill Gogledd Affrica.
Mae'r dref yn enwog yn lleol am ei farchnad sy'n gwerthu nwyddau rhad o Libya.