Belgae

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pobl hynafol oedd y Belgae (Lladin am 'y Belgiaid') a breswyliai'r ardal rhwng afonydd Marne, Seine a Rhein ac arfordir Môr y Gogledd. Roeddyn nhw naill ai'n Geltaidd neu'n rhannol Geltaidd a rhannol Almaenig o ran eu tras. I Iŵl Cesar, yn ei lyfr De Bello Gallica (2,3-4), roedd yr enw yn cynnwys llwythau'r Ambiani, Atrebates, Atuatuci, Bellovaci, Caerosi, Caemani, Caleti, Condrusi, Eburones, Menapii, Morini, Nervii, Remi, Suessiones, Veliocasses a'r Viromandui. Ar ôl i Iŵl Cesar eu goresgyn daeth y rhan bwysicaf o'i hen diriogaeth yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Belgica yn ystod teyrnasiad yr ymerodr Augustus gyda sedd y llywodraethwr yn Durocortorum (Rheims heddiw). Croesodd nifer o'r Belgae dros Fôr Udd i dde Prydain ac ymsefydlu yno.