Behgjet Pacolli

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Behgjet Pacolli: Trydydd Llywydd Kosovo.

Arlywydd Kosovo yw Behgjet Isa Pacolli (ganed 30 Awst 1951) yn Marec, Kosovo. Bu'n Brif Weithredwr cwmni adeiladu o'r Swistir am rai blynyddoedd a dywedir mai ef yw dinesydd mwyaf cyfoethog Kosovo.[1]

[golygu] Y cyfnod cynnar

Tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd yn Pristina, bu'n rhaid iddo fyw mewn cwt coed-tân am bedair mlynedd a oedd yn eiddo i deulu o Dwrci gan fynd adre ddwywaith yr wythnos - 80 kilometr yn ôl a blaen - er mwyn nôl nwyddau. Yn 17 oed cyrhaeddodd Hamburg, yr Almaen, heb geiniog yn ei boced, a chychwynodd weithio yn y dociau er mwyn talu ei ffordd. Ar yr un pryd, astudiodd yn y Brifysgol. Dysgodd pum iaith arall yn y dociau.

Ar ôl cyfnod fel milwr cafodd swydd yn gwerthu i gwmni o Awstria, gan werthu i wledydd megis Iwgoslafia, Bwlgaria, Gwlad Pŵyl a Rwsia.

[golygu] Gwleidyddiaeth

Ar 17 Mawrth 2006, sefydlodd Gyngrair Kosovo Newydd (AKR), a daeth y drydedd blaid mwyaf poblogaidd yn etholiad 2007.

Ers 2004 bu'n weithgar iawn yn dadlau a lobio dros annibyniaeth lwyr i Kosovo.


[golygu] Cyfeiriadau

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill