Bedwyr Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bedwyr WIlliams)
Neidio i: llywio, chwilio

Artist Cymreig yw Bedwyr Williams (ganed 1974 yn Llanelwy).[1] Mae'n cyfuno gosodwaith a chomedi stand-yp.[2]

Bywyd cynnar[golygu]

Cafodd ei fagu ym Mae Colwyn a mynychodd Ysgol y Creuddyn. Aeth i Goleg Menai, Bangor, i ddilyn cwrs celf sylfaenol am flwyddyn cyn mynychu St Martins School of Art yn Llundain ac yna Ateliers, Arnhem.[3]

Gwobrau[golygu]

Yn 2004 enillod Wobr Paul Hamlyn ar gyfer Celf Gweledol.[3]

Yn 2005 ef gynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis.[4] Bedwyr Williams yw'r artist a fydd yn cynrychioli Cymru yn y 55ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol y Biennale Fenis yn 2013 trwy brosiect sy'n cael ei guradu ar y cyd gan Oriel Mostyn ac Oriel Davies a'i noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.[5] i

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011, fe enillodd y 'goron driphlyg' drwy ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Gwobr Ifor Davies am waith sy'n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, ac hefyd ef oedd enillydd Dewis y Bobl yn Y Lle Celf.[6][7][8]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. gwefan galeri g39
  2. Kim Dhillon, Bedwyr Williams, Frieze, Ebrill 2006.
  3. 3.0 3.1 Artist lleol yn Fenis Gwefan BBC Cymru
  4. Adrian Searle, Picture perfect, The Guardian, Tachwedd 30, 2004.
  5. http://www.celfcymru.org.uk/41003 Bedwyr i'r Biennale] Gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru.
  6.  Artist yn ennill y trebl mewn un Eisteddfod. BBC Cymru (6 Awst 2011).; adalwyd 3 Mai 2013
  7. Wrecsam yn dre'r trebl Gwefan yr Eisteddfod
  8. Telyn neu gelf? Bedwyr yn poeni am doriadau golwg360.com Mehefin 5, 2012

Dolenni allanol[golygu]