Beata Brookes

Oddi ar Wicipedia
Beata Brookes
Ganwyd21 Ionawr 1930 Edit this on Wikidata
Rhuddlan Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 2015 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ffermwr, ymchwilydd, gweithiwr cymdeithasol, ysgrifennydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Annibyniaeth y DU, y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Gweithiwr cymdeithasol, ddynes busnes a gwleidydd Ceidwadol Cymreig oedd Beata Ann Brookes CBE[1] (21 Ionawr 1930[2][3]18 Awst 2015)[4]. Bu'n gwasanaethu fel Aelod Senedd Ewrop dros etholaeth Gogledd Cymru am gyfnod o 10 mlynedd a roedd wedi gwneud sawl ymgais aflwyddiannus i gael ei hethol i Senedd San Steffan.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Rhuddlan, Sir Ddinbych yn ferch i ffermwr a ddaeth yn ddatblygwr tai.[5] Cafodd Brookes ei haddysgu yng Coleg Lowther, Abergele[6] ac yna aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Ar ôl ei chyfnod ym Mangor derbyniodd hi ysgoloriaeth gan Adran y Wladwriaeth (US State Department) i astudio gwleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau. Wedi hynny dechreuodd weithio fel ysgrifennydd cwmni a chyfarwyddwr cwmni yng Ngogledd Cymru.

Bywyd gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Magodd Brooks diddordeb yng Ngwleidyddiaeth Ceidwadol yn gynnar yn ei bywyd a chafodd ei hethol i fwrdd reoli Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Ceidwadol ac Unoliaeth ei phlaid; chafodd ei hethol fel aelod Ceidwadol o Gyngor Dosbarth Trefol y Rhyl yn y 1950au.

Safodd yn Etholiad Cyffredinol 1955 fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Widness gan golli o 1,499 bleidlais. Safodd mewn isetholiad yn Warrington ym 1961 a safodd yn etholaeth Manchester Exchange yn Etholiad Cyffredinol 1964 heb lwyddiant.

Cafodd Brooks ei dewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiadau uniongyrchol cyntaf i'w cynnal yn y Deyrnas Unedig i Senedd Ewrop ym 1979 gan ennill sedd Gogledd Cymru yn gyffyrddus gyda mwyafrif o dros 15%. Llwyddodd i gadw ei sedd yn etholiad Ewrop 1984 ond gyda mwyafrif llawer llai. Safodd yn yr etholaeth am y drydydd tro ym 1989 gan golli'r sedd i Joe Wilson o'r Blaid Lafur.[7]

Helynt ymgeisyddiaeth Gogledd Orllewin Clwyd[golygu | golygu cod]

Ar gyfer Etholiad San Steffan 1983 bu newid ar ffiniau dau o etholaethau Ceidwadol Clwyd, symudwyd rhannau helaeth o sedd Ddinbych ac etholaeth Sir y Fflint i etholaeth newydd Gogledd Orllewin Clwyd. Fe ymgeisiodd Geraint Morgan AS a Syr Anthony Meyer AS, y ddau aelod a oedd yn cynrychioli'r seddi oedd i'w colli yn yr ad-drefnu, i gael eu henwebu ar gyfer y sedd newydd. Cynigiodd Beata Brooks ei henw ar gyfer yr ymgeisyddiaeth hefyd gan greu peth controfersi a sylw yn y wasg.

Mewn cyfarfod tynnu rhestr fer o ymgeiswyr gan fwrdd reoli Cymdeithas Ceidwadol yr etholaeth a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 1983 fe lwyddodd Brookes i ennill yr ymgeisyddiaeth gan i'r bwrdd rheoli penderfynu mae dim ond ei henw hi oedd i'w gyflwyno i gyfarfod dewis gan holl aelodau'r Blaid Geidwadol yn yr etholaeth. Honnodd Syr Anthony bod y cyfarfod yn ffics tra fo Geraint Morgan yn cwyno bod siarad yn y cyfarfod "megis pledio achos o flaen rheithgor oedd wedi ei lygru".

Plediodd Syr Anthony achos llwyddiannus o flaen Yr Uchel Lys i sicrhau bod ei enw ef yn cael ei gyflwyno i gyfarfod dewis yr aelodaeth cyffredinol yn ogystal ag enw Brookes. Yn y cyfarfod dewis fe lwyddodd Syr Anthony i ennill yr ymgeisyddiaeth o drwch y blewyn.

Bywyd Cyhoeddus Amgen[golygu | golygu cod]

Ym 1973 cafodd Brookes ei phenodi yn aelod o Awdurdod Iechyd Ardal Clwyd, lle bu'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Meddygon Teulu, cafodd hefyd ei chyfethol i Bwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd. Roedd yn aelod o'r Gyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth ac roedd ganddi sawl swydd yn y sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r anabl a phobl ag anawsterau dysgu.

Cafodd ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru ym 1984 gan gael ei hail phenodi ym 1994 er gwaethaf beirniadaeth gan y Cyngor Defnyddwyr Prydeinig a oedd yn credu y byddai dewis anwleidyddol yn fwy priodol.[8]

Cafodd ei dyrchafu'n CBE ym 1996.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru'r Rhyl a'r Cyffiniau 1985 ar dir fferm a oedd yn eiddo i Beata Brookes.

Ym mis Mai 2013 cyhoeddodd ei bod wedi ymuno â Phlaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[9]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod am gyfnod byr i Tony Arnold, ei rhagflaenydd fel cadeirydd y Ceidwadwyr Ifanc Cymreig.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BROOKES, BEATA ANN (1930 - 2015), gwleidydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-04-23.
  2. GRO Mynegai i enedigaethau Ion Chwef Mawrth 1930 Cyf 11b Tud 411
  3. Mae rhai ffynonellau yn awgrymu 1929 fel blwyddyn ei geni, eraill 1931; ond yr unig enedigaeth ar gyfer Beata Brooks i'w cofrestru gan y Gofrestrydd Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod yw un yn Ardal Cofrestru Llanelwy yn chwarter cyntaf 1930
  4. Daily Telegraph Beata Brookes, MEP - obituary
  5. 5.0 5.1 Beata Brookes, MEP - obituary (en) , telegraph.co.uk, 19 Awst 2015. Cyrchwyd ar 14 Mehefin 2016.
  6. Brookes, Beata Ann yn Who's Who 2012 (Llundain, A. & C. Black)
  7. http://www.election.demon.co.uk/epwelsh.html adalwyd 1 Rhag 1913
  8. Chris Blackhurst, "Memo fuels concern at Tory link to public life", The Independent, 2 Mai 1994
  9. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-22399978 adalwyd 2 Rhag 2013
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
Swydd newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Gogledd Cymru
19791989
Olynydd:
Joe Wilson