Basic English

Oddi ar Wicipedia

Iaith artiffisial gyda nifer fach o eiriau yw Basic English (Saesneg Sylfaenol) a grëwyd gan Charles Kay Ogden ym 1930. Mae'r iaith yn debyg i Simple English yn y modd y mae'n symleiddio Saesneg i'w gwneud yn haws i'w ddeall. Yn wahanol i Simple English, sy'n hollol gywir a safonol yn dilyn rheolau Saesneg, mae gan Basic English reolau iaith a gramadeg sydd ychydig yn wahanol i'w iaith ddeilliadol. Disgrifiwyd yr iaith artiffisial yma yn y llyfr Basic English: A General Introduction with Rules and Grammar, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1930.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.