Baschurch

Oddi ar Wicipedia
Baschurch
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.7925°N 2.8541°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011215, E04008391 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ4259321413 Edit this on Wikidata
Cod postSY4 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Baschurch[1] (Cymraeg: Eglwysau Basa).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Fe'i leolir tua 8 milltir i'r gogledd o dref Amwythig.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,503.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at Baschurch dan ei hen enw Cymraeg, "Eglwysau Basa", ym mhennillion 45–51 o Canu Heledd, cyfres o englynion sy'n dyddio o'r 9g neu'r 10g.

eglwysseu bassa y orffowys heno,
y diwed ymgynnwys;
cledyr kat, callon argoetwis.

eglwysseu bassa ynt ffaeth heno.
vyn tauawt a'e gwnaeth.
rud ynt wy, rwy vy hiraeth.

eglwysseu bassa ynt yng heno
y etiued kyndrwyn[yn],
tir mablan kyndylan wynn.

eglwysseu bassa ynt tirion heno,
ys gwnaeth eu meillyon.
rud ynt wy; rwy vyng callon.

eglwysseu bassa collassant eu breint,
gwedy y[r] diua o loegyrwys
kyndylan ac eluan powys.

eglwysseu bassa ynt diua heno;
y chetwyr ny phara.
gwyr a wyr a mi yma.

eglwysseu bassa ynt baruar heno
a minneu wyf dyar.
rud ynt wy, rwy vyg galar.

Rhestrir y pentref fel Bascherche yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[4]

Gefeilldref[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 18 Ebrill 2021
  2. Geiriadur yr Academi, Baschurch.
  3. City Population; adalwyd 18 Ebrill 2021
  4. Baschurch yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato